Cerddi Mecsico

Daw teulu fy nhaid o dalaith Yucatan, o dde’r Mexico. Mae’r cerddi hyn yn ffrwyth dwy daith ydw i wedi eu gwneud i ardal Merida, unwaith yng nghwmni fy nhaid, a’r tro arall gyda fy rheini a mrawd a’n chwaer.  Ciudad de Mexico Daw’r sierra fel drychiolaeth trwy huddug trwm y ddinas. Yr awyr yn ei gwisg o fwg yn troi o las i biws … Continue reading Cerddi Mecsico

Graffiti- Porto

Dyma’r diweddara yn y daith fyd-eang i chwilio am gelf stryd ore’r byd. Heddiw, ryda ni’n sbio ar un ddinas yn benodol: Porto. Y ddinas fwyaf yng ngogledd Portiwgal, cartref y ddiod ‘port’, FC Porto, lot fawr o bontydd, Livreria Lello, a lot fawr iawn iawn o benfras wedi halltu. A’r francesinha. Ond mwy am hynny ryw bryd eto. Un peth sydd bron mor hollbresenol … Continue reading Graffiti- Porto

Livreria Lello & Irmão

The world is full of beautiful bookstores, Parnassus not the least among them, but a Parnassus clan member recently had the chance to visit a giant amongst beautiful bookstores, a living legend of an institution- yes, we are talking of Livraria Lello. The bookstore is situated in the centre of Porto, a beautiful city in its own rights on the banks of the river Douro … Continue reading Livreria Lello & Irmão

Santiago de Compostela, 665km

Mae’r lôn i Santiago’n hir, bererin, a fydd y brain yn malio dim os ‘steddi di yn fa’ma efo fi i’w gwylio’n chwerthin yn y coed. Tyd, maedda dy drwsys yn y tywod llwyd a sbïa, fel bydd dail y coedydd almwn wedi crychu’n glustiau sgwarnog i glustfeinio ar fudandod pell Madrid. Mae’r lon yn faith a’r haul yn gras ac eira y sierra’n brathu … Continue reading Santiago de Compostela, 665km

Windows

Snapshots of Prague through various windows Condensation Its sticky snow, moist and heavy. The kind that’s quick to stick but doesn’t last. I re-wipe with my coat-sleeve a little circle of vision into the thick condensation on the window, watching the fat flakes fall. Flake is too delicate a word to describe them somehow. They are more like birds, tiny, drunk birds falling tipsily to … Continue reading Windows

Ffenestri

Prâg drwy ffenest.   Cyddwys Eira gludiog, trwm a llaith. Y math o eira sy’n glynu’n gyflym ond sydd ddim yn para. Dwi’n sychu cylch bach o ffenest efo llawes fy ngot o gyddwys trwchus y gwydr i wylio’r plu yn syrthio. Ond mae’r gair plu yn cyfleu rhywbeth mwy cain na be ydi rhein rywsut. Mae nhw fwy fel adar bach, adar bach meddw … Continue reading Ffenestri

Graffiti

Mi ddylai pawb dreulio mwy o amser yn dadlau efo plant deg oed. Dadl ffyrnig efo plentyn deg oed ynglyn a pha r’un sydd waethaf, gwm cnoi neu graffiti wnaeth fy ysbrydoli i i ysgrifennu’r canllaw yma, yr ydw i’n gobeithio bydd yn gymorth i gynyddu’r gwerthfawrogiad o sîn raffiti Ewrop. Cymru Mae gan Gymru draddodiad parchus o artistiaid graffiti, o T.H. Parry Williams i … Continue reading Graffiti

Canllaw byr i Sbaen

Dyma rywfaint o gynghorion ar sut i fyw y vida española, i’ch hachyb rhag fuax-pas’ y tramorwr di-glem ac i’ch llywio trwy bob sefyllfa anodd.   Cyfarch-gysan: Dwy gusan, un ar bob boch, boch chwith gynta. Merched bob tro’n cusanu merched, bechgyn bob tro’n cusanu merched, bechgyn weithiau yn cusanu bechgyn, fel arfer mond os ydyn nhw’n perthyn Paella am ginio, nid am swper Peidiwch … Continue reading Canllaw byr i Sbaen

Saith Pigyn

Roeddwn i wedi rhoi fy mryd ar gyrraedd copa y Siete Picos. Dwn i ddim pam, achos tydy’n nhw ddim uwch na chopaon eraill y Sierra o ran maint, ac o’r gwaelod does na ddim i awgrymu rhyw nodwedd arbennig o anarferol iddyn nhw. Er hynny, roeddwn i wedi rhoi fy mryd yn gadarn ar gyrraedd copaon y saith pigyn enigmatig, sydd a’i dannedd bylchog … Continue reading Saith Pigyn