Daw teulu fy nhaid o dalaith Yucatan, o dde’r Mexico. Mae’r cerddi hyn yn ffrwyth dwy daith ydw i wedi eu gwneud i ardal Merida, unwaith yng nghwmni fy nhaid, a’r tro arall gyda fy rheini a mrawd a’n chwaer.
Ciudad de Mexico
Daw’r sierra fel drychiolaeth
trwy huddug trwm y ddinas.
Yr awyr yn ei gwisg o fwg
yn troi o las i biws i binc
wrth i amlinell y copaon
galedu, a magu ffurf.
Ac wrth i’r grib roi siâp i’r gorwel
wrth ein traed, mae’r ddinas
yn disgyn allan o’i gwely,
stwffio’i thraed i’w slipers llwyd
a mynd i’r cefn
i danio smoc gynta’r bore.
Merida
Yn y nos
mae ogla inc o’r wasg
a noda rwbma
o Sale de fiesta wag
yn llifo mewn i’r stryd.
Tacsis a motobeics
a bysus, wedi dal ynghyd
a dact tape, cable ties a ffydd
yn rhygnu heibio.
A delwau trist o’r forwyn fair
a’i heurgylch o neon glas
yn bendithio’r stryd.
Aké
Mae hanes yn casglu yn Aké
fel blew i blwg y bath.
Tu hwnt i byst y bleachers
a’r coedydd mango
mae tyrrau’r eglwysi Sbaeneg
yn syllu’n flinedig
i mewn i’r gorwel tesog.
Ac ar greigiau’r pyramidiau
mae igwanas boliog
yn dylyfu gen ar y cerrig poeth.
Yn Ake,
gwthwyd gwaddol ymerodraethau
at y cyrion, fel dillad budron
i wneud lle i gae pel fas y dre.
Plaza Grande
Mae Senor Alfonso
yn siafio’i en a resel blastig
ar un o feinciau’r sgwâr,
mewn het banama
a chrys Guyauabera
gwyn fel eira.
Mae’r policia’n rhannu jôc
a dyn y siop Cacao,
a’r lliain yn ei choban
yn trio cuddio’i chwerthin
yn ei chwpan.
(Lluniau gan Eben Myrddin Muse)