On the road…

Wel, dwi wedi bod yn wael iawn am gynnal y blog ma’, ond dyna ni, mi oedd gen i bethe gwell i’w gwneud beryg. A dyma ni wedi dod at derfyn y deg mis dwi wedi cael eu traelio ym Mhrag (neu ym ‘Mhragadwys’, chwedl rhyw joc wael). A pha ffordd well i orffen y flwyddyn na efo ‘road trip’ o amgylch y Weriniaeth Tsiec? … Continue reading On the road…

Berlin

Berlin. Be wnewch chi efo dinas fel hon ‘dwch? Wel, mynd ar goll wnaethon ni. Ond mae’n siwr mai dyna’r ffordd ore o drafeilio yn te.   Mae hi’n ddinas ryfedd o ifanc, rhanne helaeth ohoni dal yn cael eu hadeiladu, a’r cewri ffug-hynafol ‘ma yn eistedd o gwmpas a golwg ‘be na’i’ arnyn nhw. Ac wrth gwrs ma olion y rhannu wedi pupuro trosti. … Continue reading Berlin

Ostrava

(Scroll down for English ai) Wel, allith pobman yn Ewrop ddim fod yn llawn adeiladau baroque ysblennydd, cestyll mawreddog a strydoedd llewyrchus na allith? I unrhyw un sydd wedi mynd yn sal ar felystra dinasoedd mawr canolbarth Ewrop, mae Ostrava jest y lle i lanhau eich palate chi. Dinas ol-ddiwidianol yn nwyrain y Wladwriaeth Tsiec, tebyg iawn i gymoedd y de ydi Ostrava. Mae ol … Continue reading Ostrava

Mae’r hin yn tynneru- Spring is here!

Wel, mae’r gwanwyn wedi cyrraedd Prag ac mae pawb wedi diosg eu cotia gaeaf (a hyd yn oed eu dillad cyffredin mewn rhai achosion. Bicini yn mis Mawrth? Braidd yn cin) Argol mae hi’n braf yma yn yr haul, tegeirian a thitws ym mhobman. Bendigedig Mae yr iForum, sef cylchgrawn ar lein y brifysgol yr ydw i’n gweithio arno fo wedi ennill gwobr ranbarthol y … Continue reading Mae’r hin yn tynneru- Spring is here!

Cyllido addysg uwch yng Nghymru a thu hwnt

Mae’r hen ddadl ynglŷn â chyllido addysg uwch wedi codi ei phen eto’r wythnos yma, yn benodol y cwestiwn o a ddylai llywodraeth Cymru barhau i ariannu disgyblion o Gymru sydd yn dymuno astudio yn Lloegr. Yn ôl pob tebyg mi ryda ni fyfyrwyr yn ffoi Cymru yn ein miloedd i astudio yng ngwlad y Sais- Ecsodus megis yr Iddewon yn ffoi o’r Aifft neu … Continue reading Cyllido addysg uwch yng Nghymru a thu hwnt

Munich

Dinas ym Mavaria ydi Munchen, yn enwog fwy na dim mae’n siwr am fod yn gartref i’r Oktoberfest. Dinas nodweddiadol Almaenig yn yr ystyr ei bod hi wedi cael ei chwalu’n grybibiwns yn y rhyfel byd, ac felly wedi colli y rhelyw o’i hadeiladau hanesyddol. Dinas eithaf modern felly o ran pensaerniaeth i gymharu a llawer o ddinasoedd Ewropeaidd eraill. Biti, ond dyna ni, fela … Continue reading Munich

‘When will you realize, Vienna waits for you..?’

Wedi bod yn esguluso hwn braidd ers cyn dolig, felly amser i ddal fyny dwi’n meddwl. Have not posted anything for a while here, time to sort out the backlog I think. Vienna. Fel d’wedodd rhywun doeth “Walking around Vienna is like walking around in a jewelry box”, a tydy hynny ddim fwy gwir nac ar adeg y Nadolig, pan mae’r ddinas wedi ei goleuo … Continue reading ‘When will you realize, Vienna waits for you..?’

Veselé Vánoce!

Dwi’n ‘sgwennu hwn o faes awyr Dusseldorf yn yr Almaen, lle mae gen i dair awr i aros am awyren i fynd a fi adre. Teirawr fydd yn orffwysol o hir, ond dyna ni, amynedd yw amod llwyddo. Mae’r tymor cyntaf ym Mhrag fwy neu lai wedi dod i ben heblaw am ryw fymryn o arholiadau yn Ionawr, ac mae hi wedi bod yn goblyn … Continue reading Veselé Vánoce!

Karlovy Vary

Tref fach hyfryd yn y bryniau ydi Kalvy Vary, ryw le tebyg i Landudno neu Bath sy’n llawn hen bobol ar eu gwyliau. Mi ddaeth y ddinas yn enwog am ei ffynhonau poeth, sylffiwrig sydd i fod yn iachus iawn, ac mae pawb yn dal i ddod o bell ac agos i brofi’r dyfroedd hynod. Yn benodol mae nhw’n dod o Rwsia- mae na gymaint … Continue reading Karlovy Vary