Y blogiad cyntaf- the first post

Mae hi’n anodd cychwyn pethe fel hyn yn tydi? Anodd gwybod pa mor ffurfiol/ anffurfiol i fod, pa mor nawddoglyd neu pa mor sarcastig. Fydda i byth yn gwybod be i’w ddeud, achos mae hi wastad yn anodd siarad efo gwagle, yn tydi? Ond dwi wedi ffendio ffordd i ddechra tro yma yn do, yn trafod wbath hollol amherthnasol digwydd bod, ond hitia befo, mae’n rhaid i bawb ddechra yn rwla yn toes. Mi ga i symyd ymlaen i’r hyn sydd gena i i’w ddweud go iawn rwan.

Riw fath o ddogfen o’r flwyddyn nesa ma ydi hwn i fod. Dwi’n pasa treulio yr haf ‘ma yn gweithio yn yr Unol Dalaethiau gobeithio, mewn ryw gornel fach glyd o’r enw Cape Cod. Cofiwch, mae hyn i gyd yn ddibynnol ar lysgenhadaeth America a’i parodrwydd nhw i’n nerbyn i fel dinesydd swyddogol a rhoi passport a social security number i fi, felly twtchiwch bren a choesa cwningod neu unrhyw beth arall sy’n debyg o ddod a lwc. Wedyn, yn mis Medi mi ydw i am gychwyn am flwyddyn i astudio yn yr Univerzita Karlova v Praze, neu Charles University Prag i chi a fi, fel rhan o flwyddyn Erasmws. Cyffroes iawn yn de. Ta waeth, rwbath i bawb adra gael cadw cow ar yn nhrafals i ydi hwn, gan na wela i dipyn ohonoch chi am gryn amser beryg. Felly hwyl a fflag i chi gyd am rwan yn de!

I never know how to start these things. How formal or informal should I be, how patronizing or sarcastic? And I never know what to say, I mean, it’s so strange talking to someone without being sure anyone is going to be there reading, and not knowing who they are… Anyway, I’ve managed to start this one, and it might have been way off topic, but at least it’s started and I can move on to the important stuff.

This is supposed to be a sort of documentation of the year to come really. I hope to spend this summer working in the states, in a cosy little corner called Cape Cod. However, this all depends on the willingness of the lovely staff of the US embassy to grant me citizenship, a passport and social security number next month, so touch wood, rabbits feet, or anything else likely to give you luck for me. But wait, this is not all. In September I shall be embarking on a year long expedition to the Czech Republic to study at the Univerzita Karlova v Praze, or Charles University Prague to you and me, as part of my Erasmus year abroad. So, this blog is just for all those people whom I probably won’t see for a while to keep up with my jolly-hoiting.  So have fun and a flag for now! (That makes more sense in Welsh, trust me)

Image

Llun bach, i’r rhai ohonoch chi sydd ddim yn gyfarwydd a’r Cape..

A little illustration for those of you unfamiliar with the Cape..

Leave a comment